Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 1 Ebrill 2019

Amser: 13.33 - 15.29
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5274


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Nick Ramsay AC (Cadeirydd)

Mohammad Asghar (Oscar) AC

Neil Hamilton AC

Vikki Howells AC

Rhianon Passmore AC

Adam Price AC

Jenny Rathbone AC

Tystion:

Ansley Workman, RNIB Cymru

Elin Edwards, Royal National Institute of Blind People Cymru

Gareth Davies, RNIB Cymru

Swyddfa Archwilio Cymru:

Adrian Crompton – Archwilydd Cyffredinol Cymru

Anne Beegan

Staff y Pwyllgor:

Meriel Singleton (Ail Glerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.

</AI1>

<AI2>

2       Papur(au) i'w nodi

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

</AI2>

<AI3>

2.1   Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu (20 Mawrth 2019)

</AI3>

<AI4>

2.2   Arferion a gweithdrefnau gwaith y Pwyllgor: Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (15 Mawrth 2019)

</AI4>

<AI5>

2.3   Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Gwybodaeth Ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (Mawrth 2019)

</AI5>

<AI6>

3       Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Sesiwn dystiolaeth gyda Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB) Cymru

3.1 Cafodd yr aelodau dystiolaeth gan Ansley Workman, Cyfarwyddwr, Elin Haf Edwards, Rheolwr Materion Allanol, a Gareth Davies, Arweinydd Ymgysylltu â Rhanddeiliaid Iechyd Llygaid a chynrychiolydd cleifion o RNIB Cymru, fel rhan o'r ymchwiliad i reoli apwyntiadau cleifion allanol ledled Cymru.

3.2 Cytunodd RNIB Cymru i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am:

·         Cyllid ar gyfer Swyddogion Cyswllt clinigau llygaid ym mhob bwrdd iechyd;

·         Strwythur staffio cyffredinol Canolfannau Diagnostig a Thriniaeth Opthalmeg; a

·         Mwy o wybodaeth am gyflwyno’r cofnod electronig e-atgyfeirio i gleifion a'r wybodaeth sydd ei hangen i sicrhau bod y camau angenrheidiol yn cael eu cymryd o ran delweddu a thechnoleg er mwyn caniatáu i bryderon ynghylch cleifion gael eu cyfeirio at ymgynghorwyr

</AI6>

<AI7>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI7>

<AI8>

5       Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Trafod y dystiolaeth a gafwyd

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd.

</AI8>

<AI9>

6       Arferion a gweithdrefnau gwaith y Pwyllgor

6.1 Tynnodd Adam Price AC sylw’r Aelodau at y penderfyniad diweddar a wnaed gan yr Uchel Lys mewn perthynas â diswyddo Carl Sargeant. Mynegodd ei bryder fod rhai cwestiynau’n parhau ym meddyliau pobl o ran doethineb y penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru. Oherwydd hyn, cynigiodd y dylai’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ofyn am gopi o adroddiad, a gafodd ei ddatgelu i’r wasg, a gynhaliwyd gan yr Ysgrifennydd Parhaol, ond gyda’r golygiadau priodol. Cefnogwyd ef gan Neil Hamilton AC a Mohammad Asghar AC.

6.2 Nid oedd Jenny Rathbone AC yn argyhoeddedig mai'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus oedd y Pwyllgor priodol i ofyn am y ddogfen hon, a gofynnodd i ohirio'r drafodaeth er mwyn caniatáu iddi ystyried penderfyniad yr Uchel Lys a chael cyngor priodol. Cafodd ei chefnogi gan Vikki Howells AC a Rhianon Passmore AC

6.3 Cefnogodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor, awgrym Jenny Rathbone, a chytunwyd y byddai'r eitem yn cael ei hychwanegu at yr agenda ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 29 Ebrill.

</AI9>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>